Llaeth
Oddi ar Wicipedia
Mae mamalau yn cynhyrchu llaeth neu llefrith i fwydo eu rhai bach. Mae llaeth yn cynnwys llawer o faetholynnau sydd yn addas i anifeiliaid bach sydd ddim yn gallu treulio bwyd caled.
Mae llaeth pob rhywogaeth yn arbennig ac yn addas i'w anghenion. Er enghraifft mae llaeth merch yn cynnwys llawer o lactos, math o siwgr, ond does dim cymaint o siwgr ond llawr o brotein mewn llaeth buwch. Mae llaeth buwch yn cynnwys braster llaeth (3.5 %), soledau llaeth (8.5 %) a dŵr (88 %). Y protein pennaf yw casein.
Mae dyn yn defnyddio llaeth rhai anifeiliaid, yn bennaf llaeth buwch, gafr, ceffyl, dafad a byfflo dŵr, i wneud hufen, menyn, caws, iogwrt a hufen iâ.