Kenji Nagai
Oddi ar Wicipedia
Roedd Kenji Nagai (長井 健司) (27 Awst, 1957 – 27 Medi, 2007) yn ffoto-ohebydd o Japan a gafodd ei saethu a'i ladd ym Myanmar yn ystod y gwrthdystiadau yn erbyn llywodraeth Byrma yn 2007. Parhaodd Nagai i dynnu lluniau wrth iddo gorwedd ar y stryd ar ôl cael ei saethu, wedyn bu farw yno o'i glwyfau. Y fo oedd y dinesydd cyntaf o dramor i farw yn y gwrthdystiadau.[1]
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cefndir
Magwyd Kenji Nagai yn Imabari, Ehime, Japan, a graddiodd o Ysgol Gyfun Imabari Nishi. Aeth Nagai i astudio ym Mhrifysgol Tokyo Keizai, ac ar ôl graddio bu iddo astudio am flwyddyn yn yr Unol Daleithiau. Wedi iddo ddychwelyd i Japan gweithiodd mewn swydd rhan amser cyn dechrau gyrfa fel newyddiadurwr annibynnol.[2]
Cafodd waith fel ffoto-ohebydd cytundebol ar gyfer Newyddion APF, Tokyo, swydd lle roedd Nagai yn teithio'n aml i leoedd peryglus fel y Dwyrain Canol. O 1997 tan ei farwolaeth, cymerodd Nagai penodiadau yn Afghanistan, Palesteina, ac Irac, yn tynnu ffotograffau oedd yn dangos hanfod rhyfel.
Cyrhaeddodd Nagai Myanmar dau ddiwrnod cyn i'r llywodraeth ddechrau ymosod ar mynachod Bwdhaidd oedd yn gwrthdystio yn erbyn y jwnta milwrol sydd wedi rheoli'r wlad ers disodli'r llywodraeth ddemocrataidd mewn gwrthryfel ym 1962.[3]Dechreuodd y gwrthdystiadau yn sgil penderfyniad y llywodraeth i godi pris petrol, and daeth yn rali enfawr gyda degoedd o filoedd o bobl yn ymuno â'r mynachod i orymdeithio dros ddemocratiaeth ar hyd strydoedd Yangon.[4]
Yn ôl The Times, dywedodd un o gydweithwyr Nagai fod y ffoto-ohebydd "yn ddiwrthdro" wrth ddilyn stori, gan gredu bod angen iddo deithio "i'r lleoedd lle nad oedd neb eisiau mynd."
[golygu] Marwolaeth
Roedd Nagai wedi bod ym Myanmar yn dilyn stori y gwrthdystiadau yn erbyn y llywodraeth ers dydd Mawrth, 25 Medi. Ar ddydd Iau, 27 Medi, roedd Nagai yn tynnu lluniau o'r gwrthdystiadau ger Gwesty Tarder, nid nepell o Bagoda Sule yng nghanol Yangon,pan ddechreuodd milwyr danio ar y gwrthdystwyr, yn lladd Nagai.[5][6]
Gwadodd awdurdodau Myanmar bod Nagai wedi cael ei saethu yn fwriadol, ond cafwyd o hyd at fideo sy'n dangos un o filwyr Byrma yn gwthio Nagai i'r llawr a'i saethu. [3] Times on Line. 2007-09-28
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ [http://afp.google.com/article/ALeqM5i9njHm47JNdhFWGOlyGw15TuDTZw Agence France-Presse 2007-09-28]
- ↑ [1] The Daily Yomiuri 2007-09-29
- ↑ [2] AP 2007-09-29
- ↑ http://news.yahoo.com/s/ap/20070928/ap_on_re_as/myanmar] BBC/AP 2007-09-29
- ↑ [http://news.bbc.co.uk/2/hi/asia-pacific/7017636.stm BBC 2007-09-29
- ↑ Dangosodd Fuji Television lun ar ei wefan o'r Nagai clwyfedig yn gorwedd ar ei gefn, gyda camera fideo yn ei law wrth i filwyr anelu ei wn ato yn agos iawn iddo.
[golygu] Dolenni allanol
[golygu] Fideo
- Nodyn:Youtube
- Nodyn:Youtube