Isaac Carter
Oddi ar Wicipedia
Argraffydd a chyhoeddwr llyfrau o Gymro yn hanner cyntaf y 18fed ganrif oedd Isaac Carter (m. 1741). Fe'i cofir fel sefydlydd yr argraffwasg barhaol gyntaf yng Nghymru.
Ychydig a wyddys amdano. Mae ei ddyddiad geni yn anhysbys ond ymddengys yn bur sicr ei fod yn frodor o dref Caerfyrddin. Sefydlodd wasg yn hen fwrdeistref Trefhedyn (Adpar) yn 1718. Cynnyrch cyntaf y wasg oedd dau bamffledyn, 'Cân o Senn i’w hen Feistr Tobacco' gan Alban Thomas a 'Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a’i Chynheddfau' gan awdur anhysbys, a gyhoeddwyd yn 1719. Parhaodd y wasg hyd tua 1725 pan gafodd ei symud i dref Caerfyrddin. Roedd ei gyhoeddiadau eraill yn Adpar yn cynnwys Eglurhad o Gatechism Byrraf y Gymanfa (1719), Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol (1722) a Christion Cyffredin (1724). Parhaodd i gyhoeddi llyfrau tebyg yng Nghaerfyrddin. Bu farw yn 1741.