See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Huw Jones - Wicipedia

Huw Jones

Oddi ar Wicipedia

Ni ddylid cymysgu Huw Jones â'r bardd ac emynydd o'r un cyfnod, Hugh Jones.

Bardd gwerinol, baledwr ac awdur anterliwtau oedd Huw Jones (dechrau'r 18fed ganrif - tua 1780?). Roedd yn frodor o bentref Llangwm yn yr hen Sir Ddinbych (Conwy heddiw) ac yn adnabyddus iawn yng ngogledd Cymru fel 'Huw Jones o Langwm'.

Ychydig iawn a wyddys amdano. Cyfeiria Lewis Morris ato fel "bardd crwydrol" a enillai ei fywoliaeth "yn ôl dull yr hynafiaid", h.y. trwy ganu mewn ffeiriau, gan ychwanegu iddo gael ei eni tua dechrau'r 18fed ganrif. Bu farw rywbryd ar ôl 1779, efallai yn 1780.

Er nad ydym yn gwybod fawr dim amdano, roedd Huw yn fardd hynod poblogaidd a ganodd gannoedd o gerddi. Roedd y rhain yn cynnwys baledi traddodiadol a charolau plygain. Cyhoeddwyd swm sylweddol o'i waith yn ystod ei oes, rhwng 1729 a 1779. Pamffledi a llyfrau bychain o faledi oedd llawer o'r rhain. Ond cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd mewn llyfr mwy sylweddol y ogystal, sef:

Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759). Cyfrol bwysig sy'n cynnwys gwaith Goronwy Owen, Ieuan Fardd, Rhys Jones (o'r Blaenau) ac eraill yn y rhan gyntaf a detholiad o waith Huw Jones ac eraill yn yr ail ran.

Golygodd Huw Jones y gyfrol,

Diddanwch Teuluaidd (1763). Cyfrol bwysig arall o waith Lewis Morris ac eraill o Gylch y Morysiaid.

Priodolir dwy anterliwt i Huw Jones yn ogystal, sef '(Anterliwt) Ar Ddull Ymddiddan rhwng Protestant a Neilltuwr,' a gyhoeddwyd yn 1783, a 'Histori'r Geinogwerth Synnwyr' am hanes gŵr priod godinebus.

[golygu] Ffynnonellau

  • Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1793)
  • Thomas Parry, Baledi'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1935)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -