Gwalch y Pysgod
Oddi ar Wicipedia
Gwalch y Pysgod | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Pandion haliaetus (Linnaeus, 1758) |
Gwalch y Pysgod aderyn ysglyfaethus yn byw yn bennaf ar bysgod. Mae ganddo ddosbarthiad eang iawn trwy'r byd, ac yn un o'r ychydig adar sydd i'w cael ar bob cyfandir heblaw yr Antarctig.
Ar bysgod y mae Gwalch y Pysgod yn byw bron yn gyfangwbl, ac mae'n plymio i'r dwr draed yn gyntaf i'w dal. Mae sbigau bychain ar y traed sy'n ei gynorthwyo i ddal gafael mewn pysgodyn. Yn Ewrop mae Gwalch y Pysgod yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yng ngorllewin Affrica.
Mae'n nythu gerllaw llynnoedd ac afonydd fel rheol, ond ambell dro gerllaw dwr hallt. Ran amlaf mae'r nyth, sy'n gasgliad sylweddol iawn o frigau, mewn coeden, ond gall nythu ar lawr os yw mewn lle diogel, er enghraifft ar ynys fechan ynghanol llyn.
Fe gafodd Gwalch y Pysgod ei ddifa'n llwyr o'r Alban yn nechrau'r Ugeinfed Ganrif gan saethu a chasglu wyau, ond dychwelodd i nythu yno yn y 1950au. Yn 2004 nythodd yng Nghymru am y tro cyntaf y mae cofnod amdano. Yn 2005 magodd pâr gerllaw Porthmadog ddau gyw a sefydlodd yr RSPB ganolfan ymwelwyr gerllaw'r nyth. Daeth tua 50,000 o bobl i'w gweld yn ystod yr haf.