Gorsaf Reilffordd Cyffordd Dyfi
Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd ar lan ddeheuol Afon Dyfi ar Reilffordd y Cambrian yw Cyffordd Dyfi. Dovey Junction ydyw'r enw yn Saesneg, yr enw gwreiddiol. Dyma lle mae'r rheillffordd o Amwythig yn rhannu, a llinellau yn mynd i Aberystwyth a Phwllheli. Darperir gwasanaethau trenau gan Drenau Arriva Cymru.
Mae Cyffordd Dyfi yn agos iawn i'r pwynt lle mae Gwynedd, Ceredigion, a Phowys yn cyfarfod.
Mae'r orsaf hon yng nghanol gwarchodfa natur yn agos i arfordir Bae Ceredigion. Nid oes pentref yng Nghyffordd Dyfi ond yn groes i'r farn gyffredinol, nid yw'r orsaf yn unig: mae llwybr tri chwarter milltir o hyd yn gadael i deithwyr gerdded i Landyfi.
Cafodd yr orsaf hon ei hailadeiladu ddwywaith yn ystod y degawdau diwethaf. Adeilad gan Great Western Railway oedd yr adeilad gwreiddiol ond ailosodwyd yr adeilad gan adeilad gyda tho gwastad yn y saithdegau. Ond yn y nawdegau syrthiodd yr adeilad hwn mewn adfeiliad a chafodd ef ei wared. Yn awr, dim ond cysgod syml sydd yno a ailosod yr adeilad diwethaf.
Hefyd, mae enw'r orsaf hon yn cael ei defnyddio gan dîm pel droed yng nghynghrair "Aberystwyth Digs League". Cafodd y tîm ei greu yn nwy fil a thri.