Gliese 581 c
Oddi ar Wicipedia
Gliese 581 c (/ˈgliːzə/) yw enw planed allheulol sy'n cylchu'r seren gorrach goch Gliese 581. Mae'n ymddangos ei bod mewn ardal breswyliadwy yn y gofod o amgylch y seren, lle gallai tymheredd wyneb unrhyw blaned yno ganiatau presenoldeb dŵr hylifol. Mae'r blaned yn gymharol agos i'r Ddaear, 20.5 blwyddyn goleuni (190 triliwn kilometr) i ffwrdd yng nghytser y Fantol. Gelwir y seren yn Gliese 581 yn ôl ei rhif yng Catalog Gliese o Sêr Cyfagos, a'r blaned ei hun yn Gliese 581 c am ei bod y drydedd agosaf i'r seren (ar raddfa a-b-c).
Darganfuwyd Gliese 581 c ar 4 Ebrill, 2007. Credir ei bod y blaned allheulol gyntaf i'w darganfod gyda thymheredd sy'n agos i'r hyn a geir ar y Ddaear. Yn ogystal, hi yw'r lleiaf ei maint o'r planedau allheulol o amgylch seren 'prif gyfres' i gael ei darganfod hyd yn hyn. Mae dadl fawr yn mynd ymlaen ymlith seryddwyr a gwyddonwyr am y posiblrwydd fod bywyd a allai fod rhywbeth tebyg i'r hyn rydym ni'n ei adnabod ar y blaned "newydd" hon.
Mae gan y blaned y llysenw answyddogol Ymir.