Ghadames
Oddi ar Wicipedia
Tref werddon yng ngorllewin Libia ydyw Ghadames (Berber: ɛadēməs; Arabeg glasurol: غدامس (Ġadāmis) [ɣaˈdæːmɪs], tafodiaith Arabeg Libia: ġdāməs). Fe'i lleolir oddeutu 540 km i'r dde-orllewin o Tripoli, yn agos i'r ffin gydag Algeria a Tunisia.
Mae poblogaeth o 7000 gan y dref, ac mae'r dinasyddion yn gymysgedd o Tuareg a Berber. Mae'r hen dref yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO. Ers talwm, roedd rhanbarth neilltuol gan bob un o saith dylwyth y dref, ac roedd man cyhoeddus gan bob un lle cynhelid gwyliau. Yn ystod y 1970au, adeiladwyd tai newydd y tu allan i'r hen dref gan y llywodraeth. Ond mae llawer o bobl yn dychwelyd i'r hen dref yn ystod yr haf, gan fod y pensaernïaeth traddodiadol yn cynnig gwell amddiffyniad rhag y gwres chwilboeth.
Daw'r cofnodion cynharaf o'r dref o'r cyfnod Rhufeinig, ac fe ddaeth luoedd yno o dro i dro. Cydamus oedd yr enw Lladin ar y dref. Yn ystod y 6ed ganrif, fe drigai Esgob yno, wedi i'r dref troi'n Gristnogol yn y cyfnod Bysantaidd. Yn y 7fed ganrif, rheolwyd y dref gan yr Arabiaid Mwslemaidd, ac fe drodd y boblogaeth at Islam yn fuan iawn. Roedd gan Ghadames swyddogaeth pwysig mewn masnach ar draws y Sahara hyd at y 19eg ganrif.
Cysylltwyd toeau rhan helaeth o'r dref gyda'i gilydd, fel fod yna ddau system o strydoedd mewn gwirionedd: y strydoedd isaf (wedi'u gorchuddio gan fwyaf), a'r toeau. Hyd at y 1960au, roedd y gyfundrefn gymdeithasol yn mynnu fod y merched yn cerdded ar hyd y toeau, a'r dynion ar hyd y strydoedd islaw, fel mai dim ond o fewn y cartrefi y byddent yn cwrdd.