Flin Flon
Oddi ar Wicipedia
Mae Flin Flon (poblogaeth 5,594 yn 2006) yn ddinas mwyngloddio ym Manitoba, gorllewin Canada ar y ffin â thalaith Saskatchewan.
Sefydlwyd Flin Flon yn 1927 gan y cwmni 'Hudson Bay Mining and Smelting' (rhan o'r Cwmni Bae Hudson enwog) i fanteisio ar gyfoeth copr a sinc yr ardal. Cyrhaeddodd rheilffordd yn 1928. Tyfodd y dref yn sylweddol yn y 1930au wrth ffermwyr a effeithiwyd gan y Dirwasgiad Mawr rhoi'r gorau i'w ffermydd a cheisio gwaith yn y mwyngloddiau. Creuwyd y municipality ar 1 Ionawr, 1933 ac ers 1970 mae wedi bod yn ddinas. Mae'n dal i fod yn ganolfan mwyngloddio. Gyda thirlun deniadol o goedwigoedd gwyrdd a nifer o lynoedd gerllaw, mae Flin Flon wedi tyfu'n atyniad twristaidd hefyd i raddau.
Enwir y ddinas ar ôl y cymeriad Flin Flon yn y nofel The Sunless City gan J. E. Preston Muddocks.