See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Fanny Hill - Wicipedia

Fanny Hill

Oddi ar Wicipedia

Clawr argraffiad poblogaidd o Fanny Hill a ddaeth allan yn UDA yn 1910
Clawr argraffiad poblogaidd o Fanny Hill a ddaeth allan yn UDA yn 1910

Nofel erotig yn yr iaith Saesneg gan John Cleland (1709 - 1789) yw Fanny Hill (teitl llawn arferol: Fanny Hill, or, Memoirs of a Woman of Pleasure; hefyd Memoirs of a Woman of Pleasure). Mae'n un o'r nofelau erotig enwocaf ac yn garreg filltir yn hanes llenyddiaeth erotig.

Ar ôl cyrraedd sefyllfa o barchusrwydd a moeth, mae arwres y nofel yn edrych yn ôl ar ei gyrfa gynnar a'r anturiaethau amharchus digon a ddaeth i'w rhan. Cyrhaeddasai Fanny Hill strydoedd Llundain yn ferch ifanc unig, tlawd a diniwed. Mae'n syrthio i ddwylo dyn sy'n ei rhoi i weithio mewn puteindy, ond dim ond ar ôl iddi ddianc oddi wrtho i weithio mewn maison i bobl dda eu byd y mae hi'n dechrau sylweddoli ei grym ac yn elwa o'i sefyllfa. Erbyn iddi gyrraedd ei deunaw oed mae ganddi ddigon wrth gefn i fedru priodi â'i chariad a byw yn ddedwydd.

Mae'r fersiwn derfynol o Fanny Hill yn ffrwyth carchariad yr awdur yng ngharchar y Fflyd am fod mewn dyled (Chwefror 1748 - Mawrth 1749). Roedd Cleland eisoes wedi ysgrifennu fersiwn ddrafft a gylchredai ymhlith ei gyfeillion. Cafodd y nofel ei chyhoeddi mewn dwy gyfrol dan y teitl Memoirs of a Woman of Pleasure yn 1748 a 1749, cyn i Cleland gael ei ryddhau. Bygythwyd mynd â'r awdur a'r cyhoeddwyr i'r gyfraith, ond ar ôl iddynt dalu dirwy o £100 ddaeth y mater i ben. Cyhoeddwyd talfyriad o'r ddwy gyfrol yn 1750 a dyma'r ffurf arferol heddiw. Dim ond yn ddiweddar iawn y mae cyhoeddwyr wedi mentro argraffu'r testun heb ei sensro — cafodd argraffiad ei wahardd mor ddiweddar â 1963 ym Mhrydain.

Mae'n nofel rymus sy'n cyfuno elfennau llenyddol ac athronyddol ar un llaw gyda delweddu erotig - masweddol weithiau - cofiadwy ar y llaw arall, ac arwres anghyffredin sydd o flaen ei hoes.

[golygu] Llyfryddiaeth

Yr argraffiad mwyaf cyfleus o'r testun llawn yw'r un a geir yn y gyfres 'Penguin Popular Classics' (mewn print).


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -