Eglwys Gymyn
Oddi ar Wicipedia
Cymuned a phlwyf yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Eglwys Gymyn. Ymestynna'r gymuned ar hyd yr arfordir at y ffîn a Sir Benfro. Mae'n cynnwys pentrefi Marros a Rhos-goch.
Ail godwyd Eglwys Gymun gan Margaret Marlos yn y 14eg ganrif, a chafodd ei chysegru i'r Santes Margaret o'r Alban. Roedd y rheithor rhwng 1730 a 1782, John Evans, yn un o brif elynion Griffith Jones, Llanddowror a'r Methodistiaid. Roedd y Methodist Peter Williams yn gurad yma, ond diswyddodd John Evans ef.
Ceir nifer o siamberi claddu Neolithig a bryngaer o Oes yr Haearn o fewn y gymuned.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 462.