Edward H. Dafis
Oddi ar Wicipedia
Roedd Edward H. Dafis yn fand Cymraeg oedd yn bodoli o 1973 hyd at 1980.
Rhwng Ionawr 1972 ac Awst 1973, ysgrifennodd Hefin Elis golofn yn Y Faner o dan y ffugenw 'Edward H. Dafis', a phan aeth ati i greu band arloesol Gymraeg, rhoddwyd yr enw hwn iddo. Prif bwrpas y band oedd symud cerddoriaeth Gymraeg oddi wrth y synau gwerinaidd a swynol (oedd yn gyffredin iawn yng ngherddoriaeth Gymraeg y cyfnod) tuag at agwedd mwy swnllyd a chynhyrfus.
Llwyddodd y band i gyfansoddi nifer o ganeuon sydd yn boblogaidd iawn hyd heddiw, fel Breuddwyd Roc a Rôl, Smo fi ishe mynd, Ysbryd y Nos, 'Sneb yn Becso Dam, Cân mewn Ofer a Dewch at eich Gilydd.
[golygu] Aelodau
- Llais - Cleif Harpwood
- Gitar - Hefin Elis
- Gitar a llais - Dewi 'Pws' Morris
- Bas - John Griffiths
- Drymiau - Charli Britton
[golygu] Recordiau
- Hen Ffordd Gymreig o Fyw (1974) gyda Geraint Griffiths
- Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw (1975)
- 'Sneb yn Becso Dam (1976 gyda Geraint Griffiths
- Yn Erbyn y Ffactore (1979)
- Plant Y Fflam (1980)