Geraint Griffiths
Oddi ar Wicipedia
Geraint Griffiths | |
---|---|
Clawr llyfr Geraint | |
Gwybodaeth Cefndirol | |
Enw Genedigol | Geraint Griffiths |
Ganwyd | 1949 |
Lle Geni | Pontrhydyfen |
Galwedigaeth(au) | Cantor, cyfansoddwr, actor |
Offeryn(au) Cerddorol | Llais, gitar, allweddellau |
Label(i) Recordio | Sain / Diwedd y Gwt |
Gwefan | geraintgriffiths.com |
Mae Geraint Griffiths (ganwyd 1949) yn ganwr adnabyddus yng Nghymru. Mae hefyd yn gyfansoddwr ac yn actor. Fe'i magwyd ym Mhontrhydyfen, Dyffryn Afan, lle mynychodd Ysgol Gymraeg Pontrhydyfen, ac Ysgol Ramadeg Glan Afan, Port Talbot. Yn ystod ei amser yn yr ysgol uwchradd ffurfiodd y grŵp 'The Undecided' a 'The Dream Time People'. Astudiodd nyrsio yn Ysbyty Rhyd Lafar ger Caerdydd, Ysbyty Glan Gwili, Caerfyrddin, ac Ysbytu Saint George yn Llundain.
Tra yn Llundain fu'n gerddor proffesiynol gyda'r bandiau Limbotrol, Boots a Butty. Hefyd bu'n teithio 'nol yn aml i chwarae gitâr flaen ar lwyfan gyda Edward H. Dafis. Bu hefyd yn chwarae gitâr ac yn canu ar record hir cyntaf Edward H sef Hen Ffordd Gymreig o Fyw a'r drydedd sef Sneb yn Becso Dam. Bu'n gerddor sesiwn ar recordiau Hergest, Delwyn Sion a'r recordiad o'r opera roc Nia Ben Aur. Daeth adref i Gymru i ymuno â'r band Cymraeg, Injaroc. Bu'r grŵp gyda'u gilydd am naw mis. Cyhoeddwyd un record hir - Halen y Ddaear. Ar ôl chwalu Injaroc ffurfiodd Geraint y grwp roc Eliffant a chyhoeddi dwy record hir gyda Cwmni Recordiau Sain: M.O.M. a Gwin y Gwan, a sengl ar label y band, Llef.
Ym 1984 enillodd Geraint Cân i Gymru wrth ganu Y Cwm gan Huw Chiswell. Yn sgîl hyn cafodd wahoddiad i ganu ar recordiad modern o'r Messiah, sef Teilwng Yw'r Oen. Gadawodd nyrsio i ddilyn gyrfa fel cyflwynydd teledu, actor a cherddor. Cyhoeddwyd tair record hir a un record sengl o'i waith ar label Sain. Madras (1984), Rebel (1986), Ararat (1988) a'r sengl Breuddwyd (Fel Aderyn) (1985).
Bu'n cyflwyno'r rhaglen blant Ffalabalam am bum mlynedd tan orffen y gyfres. Y Cloc (1986) oedd ei ffilm gyntaf gyda'r cyfarwyddwr Endaf Emlyn. Cafodd gyfres deledu ei hun, Nôl Ar Y Stryd (1986), ar S4C.
Rhwng 2000 a 2006, bu Geraint yn ymddangos ar y gyfres radio Eileen / Rhydeglwys ar Radio Cymru fel y cymeriad Pete Pritchard.
Ar ôl recordio am flynyddoedd gyda Chwmni Recordiau Sain, fe ffurfiodd Geraint label recordio ei hun sef Diwedd y Gwt. Mae wedi rhyddhau chwech CD ar y label yma: Donegal (1992), Hewl (1999), Glastir (2001) Miya-Jima (2005), Clwb Dydd Sadwrn (2007), Havana (2007).
Yn 2005 cyhoeddodd Gwasg Gomer hanes Geraint yn y llyfr Hewl gan Geraint Davies a John Davies. Mae hefyd yn perfformio yn achlysurol odan yr enw Geraint Griffiths a'r Gwehyddion gyda Geraint Davies (Hergest a Mynediad Am Ddim) a John Griffiths (Edward H. Dafis ac Injaroc).
[golygu] Disgograffi
- Madras 1984 (Sain)
- Rebel 1986 (Sain)
- Ararat 1988 (Sain)
- Breuddwyd (Fel Aderyn) Sengl, 1985 (Sain)
- Donegal 1992 (Diwedd y Gwt)
- Blynyddoedd Sain 1977-1988, 1997 (Sain)
- Hewl 1999 (Diwedd y Gwt)
- Glastir 2001 (Diwedd y Gwt)
- Cadw'r Ffydd 2003 (Sain)
- Miya-Jima 2005 (Diwedd y Gwt)
- Clwb Dydd Sadwrn 2007 (Diwedd y Gwt)
- Havana 2007 (Diwedd y Gwt)
[golygu] Ffilmiau
- Y Cloc (1986) Endaf Emlyn
- Ffair Roc (1986) Richard Powelko
- Fel Dail Ar Bren (1987) David Lyn
- Derfydd Aur (1989) Paul Turner
- Nel (1990) Richard Lewis
- Sant Mewn Storm (1994)
- Y Fargen (1996) Strathford Hamilton
- Dirgelwch Yr Ogof (2002) Endaf Emlyn