See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Dewiniaeth sympathetig - Wicipedia

Dewiniaeth sympathetig

Oddi ar Wicipedia

Mae dewiniaeth sympathetig, a elwir hefyd dewiniaeth ddynwaredol, yn fath o ddewiniaeth wedi ei seilio ar ddynwarediad, efelychiad neu gyfatebiaeth. Mae dynwarediad yn cynnwys y defnydd o ddelwau i effeithio amgylchedd pobl, neu'r bobl eu hun. Mae cyfatebiaeth yn seiliedig ar y syniad y gellir dylanwadu ar rywbeth trwy ei berthynas gyda rhywbeth arall.

[golygu] Dewiniaeth sympathetig mewn meddwl hynafol

Ymddengys dewiniaeth sympathetig i fod yn elfen sylweddol o feddylfryd hynafol neu fytholegol: mae llawer o gymdeithasau traddodiadol yn credu y gall yr effaith ar un gwrthrych achosi effaith gydweddol ar wrthrych arall, heb unrhyw ddolen achosol amlwg rhwng y ddau wrthrych. Er enghraifft, mae llawer o chwedlau gwerin yn cynnwys direidyn a chanddo "bywyd" sy'n bodoli mewn gwrthrych arall, ac fel canlyniad ni ellir ei ladd heb ddinistrio'r gwrthrych arall hwnnw. Yn Wganda, credir bod gwraig hesb yn achosi gardd anffrwythlon, a gall ei ŵr ceisio ysgariad am resymau economaidd. Yn ei lyfr The Golden Bough dadleuodd Syr James Frazer fod y cred mewn dewiniaeth sympathetig yn un o'r stadau mwyaf cyntefig mewn meddwl dynol, sy'n cael ei ddilyn gan grefydd ac, wedyn, gwyddoniaeth. Er nad yw damcaniaethau Frazer yn cael eu rhannu gan y cymuned gwyddonol yn gyffredin, mae'n amlwg bod dewiniaeth sympathetig yn gred hynafol ar led.

[golygu] Tystiolaeth o ddewiniaeth sympathetig mewn paentiadau ogof Oes y Cerrig

Mae'r term yn cael ei ddefnyddio'n amlaf mewn archaeoleg mewn cyswllt â phaentiadau ogof Paleolithig fel y rhai ym mryniau Tassili a Hoggar yng Ngogledd Affrica a Lascaux yn Ffrainc. Mae'r ddamcaniaeth yn un am ymddygiad dynol cyntefig, wedi ei seilio ar astudiaethau ar gymdeithasau hela a chasglu modern. Y syniad yw bod y paentiadau wedi cael eu creu gan ddewiniaid Cro-Magnon. Byddai'r dewin yn cilio i mewn i dywyllwch yr ogofâu, mynd i mewn i stad perlewyg ac wedyn paentio delweddau o'i weledigaethau, efallai gyda'r syniad o dynnu pwêr allan o furiau'r ogofau eu hun. Byddai hynny i raddau'n esbonio pellenigrwydd rhai o'r paentiadau (sydd yn aml wedi cael eu paentio mewn ogofau bach neu ddwfn) ac amrywiaeth eu cynnwys (o ysglyfaeth i ysglyfaethwyr a phrintiau llaw dynol). Serch hynny, fel yn achos cynhanes i gyd, mae'n amhosib i fod yn sicr oherwydd y diffyg tystiolaeth faterol.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -