Cynwyl Gaeo
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Cynwyl Gaeo. Saif i'r gogledd-orllewin o dref Llanymddyfri, ger y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac yn rhan uchaf Dyffryn Cothi. Mae'n cyfateb yn fras i hen gwmwd Caeo, ac yn cynnwys pentrefi Caeo, Crug-y-bar, Cwrtycadno, Ffarmers a Phumsaint.
Ymhlith nodweddion diddorol yr ardal mae mwynfeydd aur Dolaucothi, a weithiwyd gan y Rhufeiniaid. Gerllaw roedd plasdy Dolaucothi, lle llofruddiwyd y perchennog, John Johnes, gan ei fwtler yn 1876. Dymchwelwyd y plasdy yn 1952.