Cwm Afan
Oddi ar Wicipedia
Cwm yn ne Cymru gyda Afon Afan yn rhedeg trwyddo yw Cwm Afan. Mae'r cwm yn mynd o bwynt yn y bryniau i'r gorllewin i Gwm Rhondda i lawr i'r môr ym Mhorth Talbot. Fe'i lleolir oddeutu hanner ffordd rhwng Castellnedd a Maesteg. Rhwng 1091 a 1282 roedd y tir o dan rheolaeth Arglwyddi Afan.
Sylwer fod gwahaniaeth rhwng Cwm Afan - enw'r cwm - a Cwmafan - pentref yn y cwm.