See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Concwest yr Anialwch - Wicipedia

Concwest yr Anialwch

Oddi ar Wicipedia

Tiriogaeth yr Ariannin cyn i Julio Argentino Roca ddod yn Arlywydd.
Tiriogaeth yr Ariannin cyn i Julio Argentino Roca ddod yn Arlywydd.

Concwest yr Anialwch (Sbaeneg: La Conquista del Desierto) neu Ymgyrch yr Anialwch (Sbaeneg: Campaña del Desierto) yw'r enw a roddir i gyfres o ymgyrchoedd milwrol gan lywodraeth Ariannin yn erbyn llwythau brodorol y Mapuche, Tehuelche a Ranquel. Y bwriad oedd ennill rheolaeth ar ardaloedd y Pampa a dwyrain Patagonia, oedd ym meddiant y llwythau hyn. Pwnc dadleuol yw a ddylid ystyried yr ymgyrchoedd yn hil-laddiad.

Dechreuodd yr ymgyrchoedd tua diwedd y 18fed ganrif gydag ymosodiadau ar diriogaethau y Ranquel. Rhwng 1820 a 1824, bu tair ymgyrch yn nhalaith Buenos Aires dan y cadfridog Martín Rodríguez. Rhwng 1826 a 1827 bu tair ymgyrch arall dan Federico Rauch, ond yn 1829 lladdwyd ef gan y cacique Arbolito ym mrwydr Vizcacheras. Yn raddol, gwthiwyd y ffin ymhellach i'r de.

Yn 1877, enwyd Julio Argentino Roca yn Weinidog dros Ryfel, a daeth i'r casgliad mai'r unig ddull o ddeilio a'r brodorion oedd eu lladd neu eu gyrru o'u tiroedd. Pasiwyd deddf i ymestyn y ffin hyd afonydd Negro, Neuquén ac Agrio. Dechreuodd y gyfres gyntaf o ymgyrchoedd yn niwedd 1878. Yn Ebrill 1879 dechreuodd yr ail gyfres o ymgyrchoedd, gyda 6,000 o filwyr, gan gyrraedd Choele Choel ac yna ymlaen at yr Afon Negro a'r Afon Neuquén.

Pan ddaeth Roca yn Arlywydd, aeth yr ymgyrchoedd yn eu blaenau dan y cadfridog Villegas. Cyrhaeddodd 100 o filwyr dan Lino Oris de Roa ran isaf Dyffryn Camwy ac wedi brwydr ar 18 Hydref 1884, ildiodd y ddau cacique olaf, Inacayal a Foyel i fyddin dan Miguel Vidal. Cymerwyd llawer o'r brododrion yn garcharorion, a'u cadw mewn gwersylloedd. Dywedir i dros fil o'r brodorion gael eu lladd ac i 10,539 o wragedd a phlant a 2,320 o ryfelwyr gael eu cymeryd yn garcharorion. Gyrrwyd y gweddill i rannau lleiaf ffrwythlon Patagonia.

Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -