Coedwig Clocaenog
Oddi ar Wicipedia
Mae Coedwig Clocaenog yng ngorllewin Sir Ddinbych.
Mae'n gorchuddio ardal 40 milltir sgwar (100 km²), yn bennaf wedi ei chyfansoddi o goed conwydd meddal. Mae'r goedwig odan reolaeth y Comisiwn Coedwigaeth, planwyd hi yn 1905 ar dîr a oedd gynt yn dîr gwaun a fferm. Mae'n ardal ucheldir, y rhanfwyaf uchben 350 medr. Dioddefodd ei gaeaf caletaf yn 1946/1947 pan ddisgynodd eira trwm, mesurodd y gorchudd dros 150cm o ddyfnder yng Nghlawddnewydd gerllaw, bu gaeaf arall caled yn 1962/1963. Hon hefyd yw yw cadarnle olaf y wiwer goch yng Nghymru.[1].
Mae'r goedwig yn wych ar gyfer cerdded, mae ganddi nifer o lwybrau clir. Mae pwyntiau uchel sy'n codi uwchben lefel y coed yn cynnig golygfeydd o Eryri a'r Arenig Fawr i'r gorllewin a mynyddoedd Berwyn i'r de, Bryniau Clwyd i'r dwyrain a gweunydd Dinbych i'r gogledd. Mae'r bywyd gwyllt yn cynnwys adar megis y Gylfin Groes sydd wedi addasu'n dda i'r conwydd. Mae hefyd ardal caedig ar gyfer ceffylau gwyllt a sawl esiampl o weddillion hynafol, gan gynnwys o leiaf un cylch gerrig a safle addoli hynafol 'credstone'.
Mae nentydd yn rhedeg drwy'r goedwig a gorweddai Llyn Brenig i'r gorllewin, yno mae rhaeadr ysblennydd.
Datblygiad diweddar yn y goedwig oedd adeiladu fferm wynt yn 2005 gyda 25 tyrbin gwynt, mae cynlluniau ar gyfer adeiladu rhagor o dyrbinau.[2]