Chetwode
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng ngorllewin Swydd Buckingham, Lloegr. ar y ffin â Swydd Rhydychen. Fe'i lleolir 6km (4 milltir) i'r gorllewin i Fuckingham.
Mae'r elfen chet- yn yr enw yn dod o'r enw Brythoneg ar y pentref, sy'n gytras â Chymraeg Diweddar coed. Ychwanegwyd yr elfen wood o Hen Saesneg yn cyfleu'r un ystyr â'r enw gwreiddiol (Williams 1945: 6). Mae'r enw cyfansawdd yn ymddangos yn Hen Saesneg fel Cetwuda. Erbyn Goresgyniad Normanaidd Lloegr, roedd manordy yn Chetwode, yn nwylo Esgob Odo o Bayeux a Robert de Thain oddi tano yn 1086 yn ôl y Domesday Book. Sylfaenwyd priordy Awstinaidd yno yn 1244 gan Ralphe de Norwich. Datodwyd y priordy yn 1460 o achos ei dlodi, gan ddod yn rhan o Abaty Nutley yn Long Crendon gerllaw.
[golygu] Ffynonellau
- Williams. Ifor. 1945. Enwau lleoedd (Lerpwl: Gwasg y Brython).