Cerddoriaeth glasurol
Oddi ar Wicipedia
Ceir sawl diffiniad o'r term cerddoriaeth glasurol. Heddiw, defnyddir y term yn aml i olygu unrhyw gerddoriaeth na ddisgyn dan y diffiniad o gerddoriaeth boblogaidd. Gall hyn felly gynnwys mathau gwahanol iawn o gerddoriaeth, yn amrywio o Siantiau Gregoriaidd i gerddoriaeth fodern 'avant-garde'. Mewn defnydd academaidd fodd bynnag, cyfeiria'r term at gyfnod penodol, sy'n para yn gyffredinol rhwng geni Wolfgang Amadeus Mozart a marw Ludwig van Beethoven. Rhagflaenir y cofnod hwn gan y cyfnod 'Rococo', a dilynir ef gan y cyfnod 'Rhamantaidd'. Datblygodd y term 'Clasurol' wrth i gyfansoddwyr o'r 19eg ganrif ddechrau edrych ar weithiau W.A. Mozart, Josef Haydn,George Frederic Handel a Beethoven gydag edmygedd.