Cardiff-by-the-Sea
Oddi ar Wicipedia
Dinas lan-môr a chymuned yn San Diego County, Califfornia, UDA, yw Cardiff-by-the-Sea (neu Cardiff yn lleol). Fe'i lleolir ar yr arfordir rhwng Encinitas a Thraeth Solana. Mae'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin, Encinitas i'r gogledd a dwyrain, a thraeth a lagŵn i'r de. Gyda phoblogaeth o lai na 12,000, mae Cardiff-by-the-Sea yn cael ei ystyried yn rhan o ddinas Encinitas bellach.
Dechreuodd fel cymuned amaethyddol. Tyfodd yn gyflym o 1911 ymlaen gyda dyn busnes lleol, J. Frank Cullen, yn codi tai a'u gwerthu. Dywedir mai ei wraig, oedd yn Gymraes, a'i berswadiodd i enwi'r dref newydd ar ôl Caerdydd, Cymru.
Heddiw mae Cardiff-by-the-Sea yn boblogaidd ar gyfer bordhwylio a syrffio gan fod y tonnau mor dda.