C.P.D. Tref Caerfyrddin
Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Tref Caerfyrddin | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Llysenw(au) | Yr Hen Aur | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Sefydlwyd | 1948 | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Maes | Parc Waundew, Caerfyrddin | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynhwysedd | 3,000 | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cadeirydd | Jeff Thomas | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheolwr | Mark Jones | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynghrair | Cynghrair Cymru | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Mae Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin (Saesneg: Carmarthen Town Football Club) yn Glwb Peldroed, yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru. Ffurfwyd y clwb yn 1948 a maent yn chwarae ar Barc Waundew, Caerfyrddin. Lliwiau'r clwb ydi Aur a Du.
[golygu] Hanes
Cafodd y clwb ei ethol i'r Gynghrair Cymreig yn 1953 ac ennill dyrchafiad i'r adran gyntaf yn 1960. Yn 1996 bu i'r clwb ennill Cynghrair y De a felly dyrchafiad i'r Uwchgynghrair. Mae nhw wedi aros ynddi ers hynny, ac ymysg eu llwyddiannau yw dau ymddangosiad yn rownd derfynnol Cwpan Cymru (yn 1999 a 2005), ond colli ar y ddau achlysur. Roedd eu hymddangosiad yn 2005 yn ddigon i sicrhau lle yng Nghwpan UEFA ar gyfer 2005/06, lle bu iddynt wynebu Longford o'r Iwerddon. Er iddynt golli 2-0 oddi-cartref, ennillodd Caerfyrddin ail gymal 5-1 'gartref' ym Mharc Latham, Y Drenewydd i gyrraedd y rownd nesaf. FC Copenhagen o Denmarc oedd eu gwrthwynebwyr nesaf, a oedd rhy gryf gan iddynt guro 4-0 er i Gaerfyrddin roi perfformiadau cloadwy.
Y tymor canlynol (2006/2007), fe ymddangosodd y clwb yng Nghwpan Inter-Toto ond colli o 8-1 dros ddwy gymal yn erbyn Tampere o'r Ffindir oedd eu tynged. Gorffennodd y tymor ar nodyn uchel gyda'r clwb yn ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes wrth guro C. P. D. Lido Afan 3-2.
Yn nhymor 2007/2008 fe gafodd y tîm fynediad i Gwpan UEFA fel deiliaid Cwpan Cymru, ond aeth y clwb allan o'r y cynnig cyntaf drwy golli 16-3 dros y ddwy gymal yn erbyn SK Bran o Norwy
[golygu] Chwaraewyr enwog
Dechreuodd y cyn-chwarawr i Gymru ac Aston Villa, Mark Delaney ei yrfa gyda Thref Caerfyrddin.
[golygu] Dolenni
- 'Y Dre' ar 'Y We' Gwefan am CPD Tref Caerfyrddin