C.P.D. Derwyddon Cefn NEWI
Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Derwyddon Cefn Newi | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn Newi | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Llysenw(au) | Y Hynafiaid | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Sefydlwyd | 1992 | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Maes | Ffordd Plaskynaston, Cefn Mawr, Wrecsam | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynhwysedd | 2,000 | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cadeirydd | Brian Mackie | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynghrair | Cynghrair Cymru | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Mae Clwb Pêl-droed Derwyddon Cefn NEWI yn glwb Peldroed wedi'i leoli ym Mhentref Cefn Mawr, ger Wrecsam. Maent yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru. Ffurfwyd y Clwb fel clymblaid rhwng clybiau Cefn Albion a Derwyddon Unedig yn 1992. Fe adnabyddwyd y clwb fel Deryddon Cefn Flexsys o 1998 hyd at 2003 oherwydd cytundeb hysbysebu. Pan ddoth y cytundeb yna i ben, fe newidwyd enw'r clwb i adlewyrchu y gytundeb newydd gyda Phrifysgol Wrecsam (North East Wales Institute). Mae'r clwb yn chwarae ar Ffordd Plaskynaston, Cefn Mawr. Rheolwr presennol y clwb yw un o arwyr clwb pel-droed Wrecsam, Dixie McNeil. Ei Is-reolwr ydi Graham Jones.
[golygu] Hanes
Ar ol clwymiad y ddau glwb yn 1992, fe aethwyd ati i wneud ymgais am fynediad i'r Cynghrair Undebol. Ar ol sawl tymor o chwarae ynddi, fe enillon nhw hi yn 1999 felly'n enill dyrchafiaeth i'r Cynghrair Cenedlaethol. Roedd apwyntiad Steve O'Shagnessey fel rheolwr yn 2001 yn drobwynt yn hanes y Clwb. Fe gyrrhaeddod y Clwb, rownd cyn-derfynnol Cwpan Cymreig ar ol buddugoliaethau yn erbyn Llangefni-Glantraeth, Rhuthun, Helygain a'r Trallwng. Fe ddaeth y rhediad yna i ben gyda colled o 5-0 ar y Belle Vue, Rhyl yn erbyn Bangor. Daeth trafferthion ariannol i'r amlwg y tymor canlynol gyda chwaraewyr ddim yn cael eu talu am wythnosau, ond wnaeth y clwb allu gorffen mewn safle parchus iawn sef 12fed ar ddiwedd y tymor. Er ei record dda fel rheolwr, daeth gyrfa O'Shaugnessey ar Blas Kynaston i ben pan gafodd ei ddiarddel ar Ebrill 18fed, 2004. Ers hynny, mae wedi bod yn frwydyr cyson i aros yn y gynghrair. Daeth bendith i'r clwb ar ddiwedd tymor 2005 pan er iddynt orffen yn y ddau olaf, nid oedd rhaid iddynt ostwng i'r Cynghrair Undebol oherwydd i Fwcle wrthod y gwahoddiad am ddyrchafiad. Cyn Reolwr y clwb yw un o arwyr clwb pel-droed Wrecsam, Dixie McNeil. Fe ymddiswyddodd ar ddiwedd tymor 2006/07, ac yn ei le daeth y tim rheoli o Waynne Phillips a Lee Jones, dau gyn-chwaraewr gyda'r Clwb.