Basaleg
Oddi ar Wicipedia
Pentref hanesyddol sydd erbyn heddiw yn ardal ddinesig ar gyrion gorllewinol Casnewydd, de-ddwyrain Cymru, yw Basaleg (llurguniad Seisnig: Bassaleg). Mae'n adnabyddus fel lleoliad llys Ifor Hael (Ifor ap Llywelyn), noddwr Dafydd ap Gwilym yn y 14eg ganrif.
Cysylltir Basaleg â Santes Gwladys yn ogystal, un o ferched Brychan, brenin teyrnas Brycheiniog.
[golygu] Llys Ifor Hael
Trigai Ifor Hael ym mhlas Gwernyclepa ger Basaleg, tua milltir i'r de o'r pentref presennol (gorweddai ym Morgannwg yn y cyfnod hwnnw). Cadwai croeso cynnes ar ei aelwyd i'r beirdd. Ceir sawl cyfeiriad at lys Ifor Hael yng nghanu Dafydd ap Gwilym. Credir i'r bardd ganu iddo yn y cyfnod 1345-80. Mae un o'i gerddi yn gywydd mawl i lys Ifor ym Masaleg sy'n cynnwys y llinellau:
- Mawr anrhydedd a'm deddyw;
- Mi a gaf, o byddaf fyw,
- Hely â chŵn, nid haelach iôr,
- Ac yfed gydag Ifor,
- A saethu rhygeirw sythynt,
- A bwrw gweilch i wybr a gwynt,
- A cherddau tafodau teg,
- A solas ym Masaleg.[1]
Ymwelodd Evan Evans (Ieuan Fardd) â safle'r llys, yng nghwmni Iolo Morgannwg, a chyfansoddodd gyfres englynion 'I Lys Ifor Hael' sydd ymhlith y mwyaf adnabyddus o gerddi'r 18fed ganrif.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym, cerdd 8.31-38.