Bangor (Morbihan)
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl yw hon am y pentref yn Llydaw: gweler hefyd Bangor a Bangor (gwahaniaethu).
Pentref (commune) yn Llydaw yw Bangor, yn département Mor-Bihan. Mae'n un o bedwar commune ar ynys Ar Gerveur (Ffrangeg: Belle-Île-en-Mer).
Wedi ei leoli ym Mangor, y Grand Phare yw un o'r goleudai gorau ar arfordir Llydaw. Fe'i adeiladwyd ym 1935. Yn sefyll ar ei sylfaen gwenithfaen, mae'n codi 47 m o'r tir gan ei wneud yn tua 84 m uwchben lefel y môr. Gellir gweld ei olau hyd at 28 milltir allan ar y môr.
Yn ôl cyfrifiad 1999, mae gan y pentref boblogaeth o 738. Gelwir trigolion Bangor yn Fangoriaid (neu Bangorins yn Ffrangeg).
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Tudalen am Fangor, gwefan Belle Île
- (Ffrangeg) Diwylliant ym Mangor
- (Saesneg) Map o Fangor ar Michelin