Banana
Oddi ar Wicipedia
Ffrwyth trofannol yw'r banana. Mae'n tyfu'n naturiol ar y goeden banana (Musa acuminata) mewn gwledydd trofannol a chyhydeddol ac yn cael eu tyfu gan ffermwyr mewn nifer o wledydd.
Bwyteir y rhan fwyaf o fananas yn ffres, ar ôl iddynt aeddfedu, ond ceir rhai mathau a elwir yn blantains sy'n cael eu coginio a'u bwyta tra dal yn wyrdd ac sy'n fwyd crai yng ngorllewin a dwyrain Affrica a gwledydd y Caribî.