Afon Tawe
Oddi ar Wicipedia
Afon yn ne-orllewin Cymru yw Afon Tawe.
Tarddia'r afon yn llyn y Fan Fawr ym Mannau Brycheiniog, gyda'i haber yn Abertawe. Maen nifer o afonydd yn ymuno'r Tawe drwy gydol ei chwrs, megis Twrch. Llifa'r Tawe drwy nifer o drefi a phentrefi Cwm Tawe, gan gynnwys Aber-crâf, ystradgynlais, Ystalyfera, Pontardawe, Clydach,a Threbanos, cyn cyrraedd y môr yn Abertawe.
Ceir cyfeiriad at Lwch Tawe, neu'r llyn o le darddir yr afon yn chwedl Culhwch ac Olwen.