Afon Oise
Oddi ar Wicipedia
Un o ledneintiau Afon Seine yng ngogledd Ffrainc a Gwlad Belg yw Afon Oise. Ei hyd yw 302 km. Mae'r afon yn tarddu yn nhalaith Hainaut, i'r de o dref Chimay, yng Ngwlad Belg. Ar ôl llifo am tua 20 km mae'n croesi'r ffin i Ffrainc. Ceir ei chymer ag afon Seine yn nhref Conflans-Sainte-Honorine, ger Paris. Ei phrif lednant yw Afon Aisne.
[golygu] Lleoedd ar lannau'r afon
Yn Ffrainc, mae afon Oise yn llifo trwy'r départements a threfi canlynol:
- Aisne: Hirson, Guise, Chauny
- Oise (a enwir ar ôl yr afon): Noyon, Compiègne, Creil
- Val-d'Oise ("Dyffryn Oise"): Auvers-sur-Oise, Pontoise, Cergy, Jouy-le-Moutier
- Yvelines: Conflans-Sainte-Honorine