Abidjan
Oddi ar Wicipedia
Abidjan yw dinas fwyaf a phriddinas de facto Côte d'Ivoire yng ngorllewin Affrica (Yamoussoukro yw'r brifddinas swyddogol). Saif y ddinas yn lagŵn Ébrié ar nifer o ynysoedd a phentiroedd a gysylltir â phontydd. Ei phoblogaeth yw tua 4 neu 4 i 5 miliwn.
Cyfeirir ati weithiau fel "Paris Affrica" oherwydd ei pharciau, boulevards llydan, prifysgolion, siopau ffasiynol ac amgueddfeydd, ond mae rhannau eraill o'r ddinas yn dioddef o dlodi a thorgyfraith. Effeithiwyd yn fawr ar Abidjan gan y rhyfel cartref diweddar yn y wlad.