's-Hertogenbosch
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas talaith (provincie) Noord-Brabant yn yr Iseldiroedd yw 's-Hertogenbosch ( ynganiad Iseldireg ?/i , /sɛɾtoɣən'bɔs/, neu ar lafar Den Bosch). Fe'i lleolir yn ne'r Iseldiroedd, 80km i'r de o Amsterdam. Ystyr yr enw yn llythrennol yw 'Fforest y Dug'. Mae'r ardal gweinyddol (gemeente) yn cwmpasu tref 's-Hertogenbosch ei hun, ynghyd â nifer o bentrefi o'i gwmpas, Bokhoven, Deuteren, Dieskant, Empel, Engelen, Gewande, Hintham, Kruisstraat, Maliskamp, Meerwijk, Orthen, Oud-Empel a Rosmalen. Poblogaeth ardal gweinyddol 's-Hertogenbosch yw 139,596 (amcamgyfrif, Ionawr 2007).
[golygu] Gefeilldrefi
|