Velikiy Novgorod
Oddi ar Wicipedia
Velikiy Novgorod
|
|
---|---|
Oblast Novgorod
|
|
Lleoliad Velikiy Novgorod | |
Daearyddiaeth
|
|
Arwynebedd | 77.0 km² |
Uchder uwchben lefel y môr | m |
Demograffeg
|
|
Poblogaeth (Cyfrifiad 2002) | 216,856 |
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) | 218,800 |
Gwleidyddiaeth
|
|
Maer | Nikolay Grazhdankin |
Dinas hanesyddol yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Veliky Novgorod (Rwsieg Вели́кий Но́вгород). Lleolir ar Afon Volkhov, 6km i'r de o Llyn Ilmen ac 552km i'r gogledd-orllewinol o Moskva. Canolfan weinyddol Oblast Novgorod yw hi.
Mae Novgorod ymysg dinasoedd hynaf Rwsia. Mae'r cyfeiriad cyntaf ati mewn brut Rwsiadd yn dyddio i'r flwyddyn 859, a cheir cyfeiriadau ati mewn ffynonellau tramor yn gynharach fyth. Yn yr Oesoedd Canol roedd hi'n ddinas fasnachol bwysig dan arweinyddiaeth y veche, cyngor dinasyddion, mewn cyfundrefn weriniaethol. Chwaliwyd Gweriniaeth Novgorod ym 1478, pryd cipiwyd y ddinas a'i hychwanegu at deyrnas Muscovy gan Ifan III.
Ystyr yr enw Novgorod yw 'Dinas Newydd'. Hyd 1999 enw swyddogol y ddinas oedd Novgorod yn unig, er y defnyddid Velikiy ('Fawr') fel epithed anffurfiol. Ym 1999 newidiwyd yr enw yn swyddogol i Velikiy Novgorod ('Novgorod Fawr'), gan i ddinas Gorky ddychwelyd i'w hen enw, Nizhniy Novgorod ('Novgorod Isaf'), a oedd wedi arwain at ddryswch a chamgymeriadau.