Trinny Woodall
Oddi ar Wicipedia
Cyflwynydd o Loegr yw Trinny Woodall (ganwyd Sarah-Jane Woodall[1] 8 Chwefror 1964, Marylebone, Llundain). Mae hefyd yn ddylunwr ffasiwn ac yn awdures. Bu'n cyflwyno'r rhaglen What Not to Wear gyda Susannah Constantine ar BBC One ond nawr mae hi’n cyflwyno Trinny and Susannah Undress ar ITV.
Magwyd Woodall mewn teulu cyfoethog ac addysgwyd hi mewn ysgolion preifat. Ar ôl brwydr yn erbyn alcohol a cyffuriau a barhaodd deng mlynedd a gweithio yn marchnata, cyfarfodd â Susannah Constantine yn 1994. Ymunodd y ddau i ysgrifennu colofn ffasiwn wythnosol gyda'i gilydd ar gyfer The Telegraph. Arweiniodd hyn at sefydliad eu busnes cyngor-ffasiwr ar y wê, a cyhoeddi eu llyfr cyngor-ffasiwn cyntaf; roedd y ddau brosiect yn drychineb.
Commisiynwyd hwy gan y BBC i gyflwyno What Not to Wear yn 2001. Y flwyddyn canlynodd, rhyddhaodd Woodall a Constantine eu ail llyfr, What Not to Wear, a ennilodd iddi wobr yn y British Book Awards[2] ac mae wedi gwerthu dros 670,000 copi.[3] Aeth Woodall ymlaen i gyd-ysgrifennu nifer o lyfrau cyngor-ffasiwn gyda Constantine, a mae nifer wedi dod yn werthwyr gorau ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau, gan werthu dros 2.5 miliwn copi ar draws y byd.[4]