Trearddur
Oddi ar Wicipedia
Mae Trearddur, weithiau Bae Trearddur yn bentref ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi ger Ynys Môn, ar y ffordd B4545 rhwng Y Fali a Chaergybi.
Pentref gwyliau yw Trearddur yn bennaf erbyn hyn, gyda thraeth tywodlyd a nifer o westai, tafarnau, bwytai a siopau. Mae Clwb Golff Caergybi yma, a gellir dilyn llwybr ar hyd yr arfodir i Rhoscolyn.
Ceir nifer o henebion diddorol yn yr ardal, yn enwedig Tywyn y Capel, lle ceir gweddillion mynwent Gristionogol gynnar oedd yn arfer amgylchynu capel wedi ei gysegru i'r santes Ffraid. Credir bod y beddau cynharaf yn dyddio o'r 5ed ganrif. Ychydig i'r gogledd mae Porth Dafarch, lle mae nifer o olion o'r cyfnod Neolithig hyd at flynyddoedd cynnar Cristionogaeth. Ar un adeg roedd Porth Dafarch yn cael ei ystyried fel porthladd posibl ar gyfer y llongau i Iwerddon, ond Caergybi a ddewiswyd.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |