Bryngwran
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng ngogledd-orllewin Ynys Môn. Saif ar y briffordd A5, rhwng Caergeiliog a Gwalchmai, yw Bryngwran. Hyd yn ddiweddar, roedd y drafnidiaeth i Gaergybi yn mynd trwy'r pentref, ond wedi adeiladu'r A55, sy'n mynd ychydig i'r de o'r pentref, mae'n ddistawach. Mae'r rhan fwyaf o'r pentref ym mhlwyf Llechylched, gydag ychydig o'r rhan ddwyreiniol ym mhlwyf Llanbeulan.
Nid yw pentref Bryngwran yn hen iawn. Adeiladwyd Eglwys y Drindod yn 1841, i gymeryd lle yr hen eglwys, Eglwys Sant Ulched (neu Ylched). Gellir gweld gweddillion yr hen eglwys rhyw filltir i'r de-orllewin o'r pentref. Mae rhannau o hen eglwys Llanbeulan gerllaw yn dyddio i'r 12fed ganrif, ac mae bedyddfaen yma sydd efallai yn dyddio i hanner cyntaf y 11eg ganrif.
Lleolir Ysgol Gynradd Gymunedol Bryngwran yn y pentref.
[golygu] Dolen allanol
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |