Tour de France 1904
Oddi ar Wicipedia
Canlyniad Terfynol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Delwyd yr ail rifyn o'r Tour de France yn 1904, rhwng 2 Gorffennaf a 24 Gorffennaf 1904. Roedd llwybr y daith yn union run fath a 1903, ac ail-adroddodd Maurice Garin ei berffomiad buddugol o'r flwyddyn blaenorol, o drwch blewyn dros Lucien Pothier. Enillodd Hippolyte Aucouturier bedwar o'r chwech cam.
Er, bu'r ras yn ddioddefwr i'w fuddugoliaeth ei hun, cafodd ei threfferthu gan gyfres o sgandaliau.
Yn ystod y ras, cafodd naw seiclwr eu gwahardd oherwydd defnydd anghyfreithlon o geir neu trenau. Ffurfiodd yr Undeb Seiclo Ffrengig (Union Velo Francais neu UVF) bwyllgor ymchwiliol i glywed tystiolaeth dwsinau o gystadleuwyr a thystion, ac yn Rhagfyr 1904, cafodd pob enillydd cam a'r pedwar a orffennodd gyntaf yn y ras eu diarddel, Maurice Garin, Lucien Pothier, César Garin, a Hippolyte Aucouturier (oherwydd cytundebau anghyfreithlon). Felly daeth yr enillydd a oedd yn y bumed safle gynt, Henri Cornet, yn 20 oed, yn enillyd y ras, ac enillydd ieuengaf y Tour. Cafodd deg o'r rheiny a cafodd eu diarddel eu gwahardd am flwyddyn, gwaharddwyd, Maurice Garin (yr enillydd gwreiddiol) am ddwy flynedd a gwaharddwyd y ddau seiclwr arall am gydol eu oes.
[golygu] Camau
Cam | Dyddiad | Llwybr | Hyd (km) | Enillydd | Amser | Arweinydd y ras |
---|---|---|---|---|---|---|
1 | 2 Gorffennaf | Montgeron - Lyon | 467 | Michel Frédérick | 17h 45' 00" | Michel Frédérick |
2 | 9 Gorffennaf | Lyon - Marseille | 374 | André Faure | 15h 09' 02" | Emile Lombard |
3 | 13 Gorffennaf | Marseille - Toulouse | 424 | Henri Cornet | 15h 43' 55" | Henri Cornet |
4 | 17 Gorffennaf | Toulouse - Bordeaux | 268 | François Beaugendre | 8h 40' 06" | François Beaugendre |
5 | 20 Gorffennaf | Bordeaux - Nantes | 425 | Jean-Baptiste Dortignacq | 16h 49' 54" | Henri Cornet |
6 | 23 Gorffennaf | Nantes - Paris | 471 | Jean-Baptiste Dortignacq | 19h 28' 10" | Henri Cornet |
[golygu] Dolenni Allanol
Crys Melyn | Crys Werdd | Crys Dot Polca | Crys Gwyn | Gwobr Brwydrol