Shia
Oddi ar Wicipedia
Rhan o gyfres ar |
|
---|---|
Athrawiaeth |
|
Arferion |
|
Cyffes Ffydd · Gweddïo |
|
Hanes & Arweinwyr |
|
Ahl al-Bayt · Sahaba |
|
Testunau & Deddfau |
|
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
|
Sunni · Shi'a | |
Diwylliant & Cymdeithas |
|
Astudiaethau Islamig · Celf |
|
Islam a chrefyddau eraill |
|
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
|
Islamophobia · Termau Islamig |
|
Mae'r Shïa (Arabeg: شيعة , yn golygu "Plaid" ) yn enwad yng nghrefydd Islam, yr ail-fwyaf ar ôl y Swnni. Mae dilynwyr y Shïa, y Shïaid, yn ystyried Alī ibn Abī Tālib, cefnder a mab-yng-nghyfraith y Proffwyd Muhammad fel ei olynydd (Califf) ac fel yr Imam cyntaf. Yn ôl eu cred hwy, dim ond disgynyddion Ali all fod yn olynwyr y Proffwyd. Datblygodd rhai gwahaniaethau diwinyddol hefyd, ac mae cyfraith y Shïa ychydig yn wahanol i gyfraith y Swnni.
Credir fod y Shïaid tua 15% o ddilynwyr Islam heddiw. Mae nifer o wahanol fathau o Shïa; y mwyaf yw'r Imamyddion neu'r "Deuddegwyr", sy'n credu fod deuddeg Imam wedi bod. Maent yn byw yn Iran (85% o'r boblogaeth gyfan), Aserbaijan (75%), Irac (60%), Bahrain (70%), Libanus (40%), Kuwait (30%), Pakistan (20%), Afghanistan (20%), Saudi Arabia (5-20%), Syria (10%) ac India (1-2%).
Yr ail fath o Shïaid yw'r Ismailiaid, sy'n credu mewn saith Imam ac yn byw yn Pakistan, India, Syria ac Afghanistan. Trydydd math yw'r Zaiditiaid, sy'n derbyn pump Imam, ac yn byw yng ngogledd Yemen yn bennaf. Mae'r Alefitiaid yn byw yn Nhwrci a'r gwledydd cyfagos.
Dechreuodd y Shïa ynghanol y dadleuon wedi marwolaeth Muhammad yn 632 ynglŷn a phwy ddylai ei olynu. Daeth Abū Bakr yn olynydd iddo, a dim ond yn ddiweddarach y cafodd Ali ei enwi fel y pedwerydd califf. Nid oedd pawb am ei dderbyn, ac yn 661 lladdwyd ef. Roedd Ali'n briod a merch y Proffwyd, Fātima. Yn ddiweddarach lladdwyd ail fab Ali a Fatima, trydydd Imam y Shia, Hussain ym mrwydr Kerbala yn 680. Mae'r Shïa'n ystyried Hussein fel merthyr.