Robert Owen
Oddi ar Wicipedia
Arloesodd Robert Owen (14 Mai 1771 - 17 Tachwedd 1858) y cysyniad o gymuned gyd-weithredol. Roedd yn sosialydd Utopiaidd ac awdur.
Fe'i anwyd yn y Drenewydd, Powys, yn 1771. Priododd Caroline Dale, merch David Dale a oedd yn berchen melinau gwlân yn New Lanark. Daeth Robert Owen yn reolwr ar y melinau ac aeth ati i ddiwygio cyfleusterau gwaith y gweithwyr. Roedd yn credu yn angerddol ym mhwysigrwydd amgylchedd ac amgylchiadau da i’r gweithwyr, yn wahanol i nifer fawr o berchnogion ffatrioedd ei ddydd.
Ysgrifennodd lyfrau ar hyn, gan gynnwys Essays on the Principle of the Formation of Human Character a A new View of Society.
[golygu] Gwaith Robert Owen=
- A New View of Society
- Book of the New Moral World
- Revolution in the Mind and Practice of the Human Race
- A Report on the County of Lanark
[golygu] Llyfryddiaeth
- G. D. H. Cole, Robert Owen (1925)
- F. Podmore, Robert Owen: a biography (1906)