Rhodes
Oddi ar Wicipedia
Mae Rhodes (Groeg diweddar Ródhos) yn un o ynysoedd Gwlad Groeg yn ne'r Môr Aegea, yr ynys fwyaf yn ynysoedd y Dodecanese.
Ei phrifddinas yw tref Rhodes.
[golygu] Hanes
Yn yr Hen Fyd roedd yr ynys yn enwog am ei Cholosws, un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd. Bu Poseidonius yn byw yma am ran sylweddol o'i oes, ac yn cynnal ysgol athroniaeth.
Am gyfnod yn yr Oesoedd Canol roedd Rhodes yn gartref i urdd Marchogion yr Ysbyty.
Ymwelodd y marchog crwydr Jörg von Ehingen â'r ynys ar ddiwedd y 15fed ganrif.
[golygu] Economi
Mae amaeth yn bwysig ar yr ynys ond twristiaeth yw'r prif ddiwydiant erbyn heddiw.