Pont Vasco da Gama
Oddi ar Wicipedia
Pont sy'n croesi Afon Tagus (Afon Tejo) ger Lisbon ym Mhortiwgal yw Pont Vasco da Gama. Pont hwyaf Ewrop yw hi: ei hyd yw 17.2km (10.7 milltir). Agorwyd y bont ar 29 Mawrth 1998, ddeufis cyn Expo 98. Mae'i enw yn dathlu pumcanmlwyddiant darganfyddiad ffordd dros y môr o Ewrop i India gan Vasco da Gama.