Pobol y Cwm
Oddi ar Wicipedia
Pobol y Cwm | |
---|---|
Genre | Opera sebon |
Serennu | Gweler Cast |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/Ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | c.30 muned |
Darllediad | |
Sianel Gyntefig | BBC (1974-1982) / S4C (1982-presennol) |
Rhediad cyntaf yn | Hydref 1974 |
Cysylltiadau allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd Cymru yw Pobol y Cwm.
Wedi'i lleoli ym mhentref dychmygol Cwmderi yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, mae'r gyfres yn canolbwyntio ar fywyd, gwaith, cariad a materion teuluol.
Fe ddechreuodd y gyfres ar 16 Hydref 1974; felly dim ond Coronation Street ac Emmerdale sydd wedi parhau yn hirach na Pobol y Cwm ar y teledu ym Mhrydain. Wedi i S4C gael ei sefydlu, trosglwyddodd y gyfres i'r sianel honno a bellach fe'i darlledir bum noson yr wythnos trwy gydol y flwyddyn.
Ar y dechrau, pentref tawel iawn oedd Cwmderi er gwaethaf perthnasau personol anodd. Tueddai'r straeon ganolbwyntio o gwmpas cartre'r henoed Bryn Awelon a'r dafarn leol, Y Deri Arms. Mae'r dafarn yn dal i fod yn ymgynullfan pwysig yn yr opera sebon, yn ogystal â siopau a chartrefi'r sawl sy'n byw yng Nghwmderi. Ddiwedd y 90au, codwyd set barhaol i'r gyfres y tu ôl i faes parcio BBC Cymru yn Llandaf, Caerdydd, gan hwyluso'r ffilmio a rhoi cartref parhaol i'r rhaglen. Yn ddiweddar, mae'r straeon wedi newid i ganolbwyntio ar faterion mwy dadleuol fel llofruddiaeth, trais, cyffuriau a dyfodol cymunedau gwledig. Un o themâu rheolaidd y gyfres ers 1974 yw dyfodol yr iaith Gymraeg. Cafwyd sawl stori gryf dros y blynyddoedd, yn ogystal â rhai gwan. Rhai o'r straeon a gydiodd fwyaf yn nychymyg y gwylwyr dros y blynyddoedd diwedar oedd marwolaeth y cymeriad Reg Harries, cymeriad selog yn y gyfres ers yr ail bennod, a'r damwain gar pan gollodd Anita'r babi yr oedd hi'n ei gario.
Mae S4C yn dangos Pobol y Cwm o nos Lun i nos Wener am 8:00 pm, ond maent yn ail-ddarlledu holl benodau'r wythnos ag isdeitlau yn Saesneg ar y sgrin ar nos Sul am 5:35yh.
Saethir y rhan fwyaf o olygfeydd awyr agored Pobol y Cwm yn ardal pentref Llanbedr-y-fro, i'r gorllewin o Gaerdydd.
[golygu] Cast
- Dai 'Sgaffalde' Ashurst - Emyr Wyn
- Sabrina Ashurst - Gillian Elisa
- Diane Francis - Victoria Plucknett
- Jason Francis - Rhys Ap Hywel
- Sara Francis - Helen Rosser Davies
- Mark Jones - Arwyn Davies
- Debbie Jones - Maria Pride
- Kathleen Jones - Siw Hughes
- Stacey Jones - Shelley Rees
- Ricky Jones - Tomos West
- Sheryl Hughes - Lisa Victoria
- Julie Hughes - Grug Maria
- Brandon Monk - Nicholas McGaughey
- Garry Monk - Richard Lynch
- Britt Monk - Donna Edwards
- Rhiannedd Frost - Lisa Palfrey
- Sion White - Jeremi Cockram
- Huw White - Rhys Hartley
- Gwyneth Jones -Llinor ap Gwynedd
- Anita Pierce - Nia Caron
- Kelly - Lauren Phillips
- Jinx - Mark Flanagan
- Erin - Kate Jarman
- Kim - Rosalind Richards
- Rhodri Lewis - Marc Llewellyn
- DI Gwyn Lewis - Emyr Bell
- Ronnie Steadman - Wayne Cater
- Lucy Steadman - Heledd Baskerville
- Denzil Rees - Gwyn Elfyn
- Anti Marian Rees - Buddug Williams
- Johnny 'Mac' Torino - Brian Hibbard
- Liam Torino - Siôn Ifan Williams