See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Pâl gwladychiad - Wicipedia

Pâl gwladychiad

Oddi ar Wicipedia

Map o'r Pâl gwladychiad
Map o'r Pâl gwladychiad

Ardal yng ngorllewin Ymerodraeth Rwsia lle goddefid i Iddewon fyw yn barhaol oedd y Pâl gwladychiad (Rwsieg Черта оседлости / cherta osedlosti). Ystyr y gair pâl yw polyn, ac, oddiyno, llinell neu ffin. Y Pâl oedd y llinell oedd yn llunio ffin yr ardal honno.

Crewyd y Pâl gyntaf gan Catrin Fawr ym 1791 (mewn gweithrediad o 28 Rhagfyr 1791). Roedd yn cwmpasu tiriogaeth heddiw Gwlad Pwyl, Lithwania, de Latfia, Belarws, rhan fwyaf Wcráin, Moldova, ynghyd â rhai ardaloedd sydd heddiw yng ngorllewin Rwsia. Roedd y Pâl gwreiddiol yn cynnwys y Caucasus a thalaith Astrakhan yn ne Rwsia, ond neilltuwyd y taleithiau hyn ohono ym 1825. Goddefwyd i Iddewon fyw yn Kurland (de Latfia, gan gynnwys Riga), ond gwaharddwyd Iddewon newydd rhag gwladychu yno. Er i Kiev orwedd y tu fewn i'r Pâl, gorfodwyd i Iddewon fyw mewn ardaloedd penodol yn y ddinas. Roedd yna dair dinas arall yn y Pâl (Nikolaev, Yalta a Sevastopol) lle nad oedd Iddewon i fyw o gwbl. Caniatawyd i Iddewon mewn rhai galwedigaethau (marsiandwyr, pobl â graddau uwch, meddygon, swyddogion llywodraethol, rhai crefftwyr) fyw y tu allan i'r Pâl. Bu'r cyfyngiadau a roddwyd ar Iddewon yn y Pâl yn y 19eg ganrif yn sbarduno llawer ohonynt i allfudo i'r Unol Daleithiau neu i ymuno â mudiadau chwyldroadal.

Diddymwyd y Pâl gan y Llywodraeth Dros Dro ym 1917 ar ôl Chwyldro Chwefror.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -