Newcastle upon Tyne
Oddi ar Wicipedia
Newcastle upon Tyne
|
|
---|---|
Dinas Newcastle upon Tyne (bwrdeistref fetropolitanaidd)
|
|
Lleoliad Newcastle upon Tyne | |
Sir seremonïol | Tyne a Wear |
Sir hanesyddol | {{{sir_hanesyddol}}} |
Daearyddiaeth
|
|
Arwynebedd | 113.4 km² |
Demograffeg
|
|
Poblogaeth (Cyfrifiad 2001) | 259,536 |
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) | 276,400 |
Gwleidyddiaeth
|
|
Aelod seneddol | Nick Brown, David Clelland, Jim Cousins, Doug Henderson |
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Lloegr ar Afon Tyne yw Newcastle upon Tyne neu Newcastle. Mae'n fwrdeistref fetropolitanaidd yn sir Tyne a Wear.
[golygu] Hanes
Yn y cyfnod Rhufeinig safai Pons Aelius, un o geyrydd y Rhufeiniaid ar hyd Mur Hadrian, ar safle presennol Newcastle. Adeiladwyd castell Normannaidd yno tua 1080, ar adfeilion tref Eingl-Sacsonaidd Monkchester, gan Robert Curthose, mab Gwilym I. Hwn oedd y castell newydd y mae'r ddinas yn cael ei henw ganddo. Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd Newcastle yn gaer bwysig yn amddiffyn ffin ogleddol Lloegr yn erbyn yr Alban. Yn yr bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd Newcastle fel porthladd allforio glo o lofeydd Durham ac fel canolfan adeiladu llongau a pheirianyddiaeth drwm. Ar sail cyfoeth y Chwyldro Diwydiannol, ailadeiladwyd canol y ddinas mewn arddull neoglasurol yn y 1830au. Mae pensaernïaeth Grey Street yn nodweddiadol o'r arddull hon. Adeiladwyd Pont Tyne ym 1928. Yn ystod y 1990au cafodd ardal Glan y Cei ei ailddatblygu, ac adeiladwyd Pont y Mileniwn yn cysylltu Newcastle â thref gyfagos Gateshead a'r datblygiadau diwylliannol newydd yno.
[golygu] Gefeilldrefi
|