Morgan ap Pasgen
Oddi ar Wicipedia
Brenin Powys yng nghanol rhan gyntaf y 6ed ganrif oedd Morgan ap Pasgen (fl tua 540?). Daeth i'r orsedd ar farwolaeth ei dad, Pasgen ap Cyngen. Fel pob un o deyrnoedd Powys yn y cyfnod yma, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdano. Dilynwyd ef ar yr orsedd gan Brochwel Ysgithrog.