Lucius Licinius Lucullus
Oddi ar Wicipedia
Cadfridog a chonswl Rhufeinig oedd Lucius Licinius Lucullus (tua 118 - 56 CC).
Ganed Lucullus yn Rhufain, yn aelod o deulu amlwg. Dechreuodd ei wasanaeth milwrol fel tribwn milwrol yn ystod Rhyfel y Cyngheiriaid (91–88 CC), yn gwasanaethu dan Sulla, oedd yn perthyn iddo trwy briodas. Fel quaestor yn 88 CC, ef oedd yr unig un o swyddogion Sulla i'w gefnogi pan ddefnyddiodd ei fyddin i gipio grym yn Rhufain.
Bu'n ymladd dan Sulla yn y cyntaf o ryfeloedd Rhufain yn erbbyn Mithridate VI, brenin Pontus. Ef oedd yn gyfrifol am y llynges Rufeinig, ac ym Mrwydr Tenedos gorchfygodd Neoptolemus, llynghesydd Mithridates. Wedi gwneud cytundeb heddwch a Mithridates, arhosodd Lucullus yn Asia i gasglu'r arian oedd yn ddyledus gan y dalaith fel dirwy am wrthryfela.
Daeth yn gonswl yn 74, gyda Marcus Aurelius Cotta, ewythr Iŵl Cesar. Yn wreiddiol, rhoddwyd talaith Gallia Cisalpina iddo i'w llywodraethu, ond llwyddodd i'w newid i Cilicia er mwyn medru ymladdd yn erbyn Mithridates eto. Enillodd nifer o fuddugoliaethau dros Mithridates, a'i orfodi i encilio i Pontus. Ymosododd ar Tigranes Fawr, brenin Armenia, oedd mewn cynghrair a Mithridates, a'i orchfygu mewn brwydr ger ei brifddinas, Tigranocerta. Enillodd fuddugoliaeth arall dros Tigranes a Mithridates ym mrwydr Artaxata ar 6 Hydref 68 CC, ond erbyn hyn roedd anfodlonrwydd ymhlith ei filwyr, a gallodd Tigranes a Mithridates gipio rhan o'u teyrnasoedd yn ôl. Llwyddodd Gnaeus Pompeius Magnus i berswadio'r Senedd i alw Lucullus yn ôl i Rufain a'i wneud ef ei hun yn gadfridog i orffen y rhyfel.
Surodd hyn Lucullus, ac ymddeolodd i fywyd preifat. Dath yn enwog am foethusrwydd ei ffordd o fyw, gan ddefnyddio y cyfoeth yr oedd wedi ei gasglu yn y dwyrain.