K2
Oddi ar Wicipedia
K2 Himalaya |
|
---|---|
Llun | K2 |
Uchder | 8,611m |
Gwlad | Pacistan / China |
K2 yw'r mynydd ail-uchaf yn y byd. Mae'n rhan o fynyddoedd y Karakoram yng ngorllewin yr Himalaya. Saif ar y ffin rhwng Pacistan a China (er bod y diriogaeth yn cael ei hawlio gan India hefyd).
Ni ymddengys bod enw brodorol dilys i'r mynydd. Cyfeiria'r awdurdodau Sineaidd ato fel Qogir; enw sy'n deillo o Chogori, ei hun yn enw a ddyfeisiwyd gan fforwyr Gorllewinol o ddau enw Balti, chhogo ("mawr"') a ri ("mynydd"). Mae'r enw Saesneg Mount Godwin-Austen hefyd wedi ei ddefnyddio ar adegau. Cafodd yr enw K2 pan wnaed archwiliad o'r ardal yn 1856 gan dim dan arweiniad Henry Haversham Godwin-Austen. Yr oedd mynyddoedd eraill y Karakoram wedi eu nodi fel K1, K3, K4 a K5, ond cawsant hwy eu hail-enwi yn ddiweddarch yn Masherbrum, Broad Peak, Gasherbrum II a Gasherbrum I.
Ystyrir mai K2 yw'r mynydd anoddaf yn y byd i'w ddringo, oherwydd ei fod yn llawer anoddach yn dechnegol na Mynydd Everest a dim ond fymryn yn is. Gwnaed yr ymgais gyntaf i'w ddringo yn 1902 gan Oscar Eckenstein ac Aleister Crowley. Methu wnaeth yr ymdrech, a'r un peth ddigwyddodd i ymdrechion yn 1909, 1934, 1938, 1939 a 1953. Ar 31 Gorffennaf, 1954 llwyddodd ymgyrch Eidalaidd i roi dau ddringwr, Lino Lacedelli ac Achille Compagnoni, ar y copa.
Ni ddringwyd y mynydd eto tan 9 Awst, 1977, 23 mlynedd yn ddiweddarch, pan lwyddodd tîm o Japan. Cyrhaeddodd Ichiro Yoshizawa y copa gyda Ashraf Amman o Bacistan. Ebyn hyn mae'r mynydd wedi ei ddringo o nifer o gyfeiriadau, ond mae'r nifer sydd wedi cyrraedd ei gopa yn llawer llai na'r nifer sydd wedi dringo Everest; erbyn Awst 2004, roedd 246 o bobl wedi dringo K2 tra'r oedd 2,238 wedi dringo Everest. Mae o leiaf 56 o ddringwyr wedi marw yn yr ymgais, yn cynnwys 13 yn ystod 1986. Erbyn y flwyddyn honno, amcangyfrifwyd fod 30% o'r bobl oedd wedi sefyll ar y copa wedi marw ar y ffordd i lawr.
Y 14 copa dros 8,000 medr |
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II |
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma |