Iola Wyn
Oddi ar Wicipedia
Newyddiadurwraig a darlledwraig yw Iola Wyn sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C. Fe'i magwyd yn Bow Street ger Aberystwyth, lle roedd ei thad yn weithiwr fferm. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Rhydypennau, ac Ysgol Gyfun Penweddig.
Ar ôl gadael yr ysgol aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio'r Gymraeg. Ymhlith y swyddi haf wnaeth hi yn ystod y cyfnod hwnnw o "dlodi", 'roedd cyfri hadau ym mridfa blanhigion IGER yng Ngogerddan, a glanhau Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth!
[golygu] BBC Cymru
Ar ôl gadael y Brifysgol cafodd swydd yn Adran Gyflwyno BBC Radio Cymru, cyn symud i'r Adran Newyddion lle bu'n ohebydd ar BBC Radio Cymru a Newyddion Teledu BBC Cymru ar S4C.
[golygu] Rhaglen Ffermio
Ymunodd â thîm rhaglen Ffermio yn Ionawr 2005, ac ar ôl treulio 15 mlynedd yng Nghaerdydd symudodd Iola a'i gwr Iwan a'u meibion, Lleu a Caeo i Sanclêr, Sir Gaerfyrddin - ac yn prysur ddod i arfer â bywyd tawelach, mwy hamddenol.
Mae Iola hefyd yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru, yn cyflwyno'r rhaglen foreol Rebecca Jones yn achlysurol.