Hugh Evans
Oddi ar Wicipedia
Cyhoeddwr ac awdur oedd Hugh Evans (14 Medi 1854 - 30 Mehefin 1934). Sefydlodd Wasg y Brython ac roedd yn awdur sawl llyfr ac erthygl am fywyd cefn gwlad Cymru a llên gwerin Cymru, yn ogystal â chyfres o lyfrau i blant.
Brodor o bentref bychan Llangwm, Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw), oedd Hugh Evans. Dim ond ychydig o addysg elfennol a gafodd cyn mynd i weithio fel gwas fferm yn ei fro. Symudodd i Lerpwl lle sefydlodd Wasg y Brython yn 1875, a ddaeth yn un o gyhoeddwyr Cymraeg mwyaf y dydd.
Fel llenor a hynafiaethydd roedd ganddo ddiddordebau eang. Sefydlodd y cylchgrawn hynafiaethol Y Brython yn 1906 ac yn 1911 dechreuodd gyhoeddi'r cylchgrawn beirniadol dylanwadol Y Beirniad, dan olygyddiaeth Syr John Morris-Jones. Ysgrifennodd gyfrol ddiddorol ar chwedlau gwerin am y Tylwyth Teg yn 1935. Ysgrifenodd gyfres o straeon a llyfrau eraill i blant hefyd, e.e. Hogyn y Bwthyn Bach To Gwellt. Ond fe'i cofir yn bennaf am ei glasur bach Cwm Eithin (1931), sy'n disgirifio mewn ffordd gofiadwy a difyr arferion a chymdeithas y Gymru wledig, seiliedig yn bennaf ar ei wybodaeth am ei fro enedigol.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Llyfrau Hugh Evans
- Camau'r Cysegr (Lerpwl, 1926)
- Cwm Eithin (Lerpwl, 1931; sawl argraffiad arall). Cyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Gorse Glen (1948)
- Hogyn y Bwthyn Bach To Gwellt (Lerpwl, 1935)
- Y Tylwyth Teg (Lerpwl 1935; sawl argraffiad ar ôl hynny)
[golygu] Astudiaethau
- Richard Huws, 'Hugh Evans', yn Dewiniaid Difyr, gol. Mairwen a Gwynn Jones (Gwasg Gomer, 1983)