Henry Purcell
Oddi ar Wicipedia
Roedd Henry Purcell (Medi 10, 1659 – Tachwedd 21, 1695), yn gyfansoddwr baróc o Loegr. Dywedwyd yn aml mai ef oedd un o gyfansoddwyr brodorol gorau Lloegr. Cyfunodd Purcell elfenau arddull Eidalaidd a Ffrengig, gan greu arddull neilltuol Seisnig o gerddoriaeth faróc. Ddim yn hir ar ôl i Purcell briodi, ym 1682, cafodd ei benodi'n organydd y Capel Brenhinol. Cafodd copi o’i gyfansoddiad cyntaf, Twelve Sonatas, ei gyhoeddi ym 1683. Ym 1685, ysgrifennodd Purcell ddwy o’i anthemau mwyaf enwog – "I Was Glad" a "My Heart Is Inditing".