Gwyddbwyll
Oddi ar Wicipedia
Gêm i ddau sy'n cael ei chwarae ar fwrdd 8×8 o sgwariau gwyn a du yw gwyddbwyll. Nod Gwyddbwyll yw i osod Brenin dy wrthwynebydd mewn Siachmat. Ystyr Siachmat yw pan fod y Brenin yn methu osgoi cael ei gipio (neu ei ladd) y symudiad nesaf. Mae'n gêm resymegol a thactegol ddwfn iawn, cymaint felly fod rhai yn disgrifio chwarae gwyddbwyll yn wyddoniaeth ac yn gelfyddyd. Mae tarddiad y gêm mwy na thebyg yn India neu China hynafol, ac fe ledaenodd trwy Iran i Ewrop.
Mae'r darnau'n cael eu gosod ar y bwrdd fel yn y llun, gyda'r Frenhines ar ei lliw ei hun - hynny yw Brenhines du ar sgwâr du, Brenhines gwyn ar sgwâr gwyn. Gwyn sy'n symud gyntaf, ac mae'r chwaraewyr yn symud am yn ail tan bod naill ai Siachmat, neu chwaraewr yn ildio, neu'r ddau yn cytuno i gêm gyfartal, neu'r gêm yn gorffen fel Methmat.
Defnyddir nodiant algebraidd yn y gêm fodern i ddynodi sgwâr, ee. symud gwerinwr i sgwâr e4 = e4, symud Marchog i sgwâr e4 = Me4.
Mae pob darn gwyddbwyll yn medru symud mewn ffordd wahanol, ac mae gan bob darn werth arbennig wrth chwarae, gan ddechrau gyda'r gwerinwr lleiaf pwerus. Mae darnau pob chwaraewr fel a ganlyn:
- 1 Teyrn (neu Brenin) (T) (Amhrisiadwy, ond tua 4 pwynt wrth chwarae)
- 1 Brenhines (B) (9pwynt)
- 2 Castell (C) (5 pwynt)
- 2 Esgob (E) (3+ pwynt)
- 2 Marchog (M) (3 phwynt)
- 8 Gwerinwr (1 pwynt)
Wedi dysgu sut i symud y darnau mae chwaraewyr gwyddbwyll yn mynd ati astudio
[golygu] Gwyddbwyll Geltaidd
Defnyddid y gair "Gwyddbwyll" ( Gwezboell yn y Llydaweg, Fidchell yn y Wyddeleg) yn y Gymraeg cyn i'r gêm bresennol ddod i Gymru (yn y Mabinogi er enghraifft). Cyfeirio at gêm arall â tharddiad Celtaidd iddi yr oeddid yn y llawysgrifau. Heddiw ceir gemau a elwir "gwyddbwyll Geltaidd" sy'n seiliedig ar yr ychydig wybodaeth sydd wedi goroesi ynglŷn â'r gêm Fidchell o Iwerddon a'r gêm tawlbwrdd o Gymru. Mae'r rheolau yn hanu o gemau Tafl y Germaniaid.
Yn wahanol i'r wyddbwyll fodern gonfensiynol, mae gwyddbwyll Geltaidd yn gwrthwynebu dau lu anghyfartal a chanddynt ddau amcan gwahanol. Mae'r brenin yn cael ei warchae yn ei gastell canolog, wedi ei amddiffyn gan wyth tywysog. Gyda chymorth y tywysogion mae'n ceisio dianc y gelynion trwy gyrraedd un o'r bedair cornel. Mae yna 16 o elynion, mewn pedwar grŵp o bedwar. Maen nhw'n ceisio dal y brenin trwy ei flocio a rhwystro ei symudiadau.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.