Guto'r Glyn
Oddi ar Wicipedia
Roedd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yn fardd Cymraeg oedd yn perthyn i draddodiad Beirdd yr Uchelwyr.
Cysylltir Guto â Glyn Ceiriog, lle'r oedd nifer o'i noddwyr yn byw. Ysgrifennodd gerddi i noddwyr ym mhob rhan o Gymru, ac ystyrir ef yn un o feistri'r canu mawl.
Gellir casglu o'i farddoniaeth fod Guto wedi bod yn filwr. Yr oedd yn bleidiwr brwd i blaid yr Iorciaid yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, a chyfansoddodd gerddi i glodfori y brenin Edward IV ac Iarll Penfro, William Herbert, prif gefnogwr yr Iorciaid yng Nghymru.
Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf fel gwestai yn Abaty Sistersaidd Glyn y Groes, ger Llangollen. Roedd ei gyfaill agos Gutun Owain yn ymwelydd cyson â'r abaty hefyd, a chanodd farwnad i'w gyfaill. Mae'n debygol fod Guto wedi ei gladdu ar dir yr abaty.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Guto'r Glyn: Gwaith Guto'r Glyn, golygwyd gan Ifor Williams, casglwyd gan John Llywelyn Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1939)